Dillad i Ddathlu Diwylliant Cymru

Mae OGE yn ddathliad o ddiwylliant Cymru, wedi’i gynllunio i ddod â’r diaspora ynghyd drwy ffasiwn o safon uchel ar sail hunaniaeth. Wedi’i gwreiddio mewn dwyieithrwydd a threftadaeth, rydym yn cynnig mwy na dillad—rydym yn adeiladu cymuned sy’n croesi ffiniau. Ein cenhadaeth yw creu ymdeimlad o berthyn gyda'r nod o gefnogi dyfodol manwerthu a gweithgynhyrchu dillad Cymru.

Ymunwch â ni wrth i ni gyfuno traddodiad â moderniaeth; a gwisgwch yr afr â balchder.

  • Mountain Goats

    Amdanon ni

    Rydym yn frand dillad dwyieithog yn seiliedig ar y gân draddiodiadol "Oes Gafr Eto", sy'n crwydro ar hyd ucheldiroedd (a gwastadeddau) Cymru. Thema ganolog yw'r cyfres o liwiau geifr sy'n cael eu galw yn y gytgan. Mae hefyd yn adlewyrchu cymeriad cryf, annibynnol a garw a all oroesi pob her.

  • Ein Dull

    Anelwn i gynnig cynnyrch sy’n dathlu diwylliant a hunaniaeth Gymreig mewn ffordd unigryw ond sy’n ymberthyn i'r amrywiaeth o draddodiadau a diwylliannau sy'n dathlu'r afr ar draws y byd. Dyn ni'n cynnig gwasanaeth dwyieithog yn y man gwerthu gyda'r nod mwy hir dymor o gefnogi gweithgynhyrchu a manwerthu dillad mewn dull cynaladwy.

  • Llyn Fan Fawr

    Ein casgliadau

    Mae ein casgliadau yn seiliedig ar themâu daearyddol a lliwiau cysylltiedig. Dyma Afr y Mynydd; Gafr Tir a Môr; a Gafr y Maes Chwaraeon. Mae cyfres arbennig y Crwydryn gyda ni hefyd ar gyfer y diaspora, ble bynnag y boch - yn "Crwydro", fel yr "hen afr" ei hun.